Tun baco glöwr, gyda 'Jenkin Jenkin, 77 Pentregethin Road, Cwmbwrla, 1909' wedi'i ysgythru arno, Abertawe, 1909 [delwedd 1 o 2]
Tun baco glöwr, gyda 'Jenkin Jenkin, 77 Pentregethin Road, Cwmbwrla, 1909' wedi'i ysgythru arno, Abertawe, 1909 [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Byddai glowyr yn aml yn cludo tuniau baco tebyg i'r rhain, fyddai'n aml yn cynnwys baco main neu faco cnoi. Ni chaniateid ysmygu dan ddaear wrth reswm, a byddai cnoi baco yn cynnig dewis arall. Byddai llawer o duniau yn arddangos addurniad wedi ei ysgythru neu ei dyllnodi, ac yn aml yn dangos enw'r perchennog ac weithiau ei gyfeiriad llawn. Yn ogystal â bod yn fodd i dun coll gael ei ddychwelyd, gellid tybio y byddai'r manylion hyn o gymorth i adnabod y perchennog tasai'r gwaetha'n digwydd, ac iddo gael ei ladd neu ei glwyfo'n ddrwg mewn damwain gwaith glo.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment