'Clarke's Machine', Cynhyrchydd siociau trydanol, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Peiriant magned-drydanol, a elwir weithiau'n beiriant 'Faradic', a ddefnyddiwyd i gynhyrchu a rhoi siociau trydanol at bwrpasau meddygol. Mae'r ddau ddrwm glas yn cynnwys torchau o wifren sy'n cynhyrchu trydan pan maent yn troi uwchben magned sydd oddi tanynt. Cânt eu troi gan ddefnyddio'r dwrn a'r olwyn addurniedig. Roedd dwy neu fwy o wifrau eraill a oedd yn terfynu mewn tiwbiau pres i'w dal gan y claf, neu i'w rhoi ar fannau eraill ar y corff, yn rhoi'r sioc drydanol.
Adeiladwyd y peiriant cyntaf o'r math hwn gan M. Hippolyte o Baris ym 1832, a gwellwyd y peiriant yn ddiweddarach gan Clarke yn Llundain. Honnid bod y driniaeth hon o les i gleifion a oedd yn dioddef o gryd cymalau, pen tost, y lledewigwst neu broblemau cyhyrau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment