Darn o ruban sidan glas a dorrwyd yn seremoni agor Doc Newydd y Brenin, Abertawe, 23 Tachwedd 1909
Darn o ruban sidan glas a dorrwyd yn seremoni agor Doc Newydd y Brenin, Abertawe, 23 Tachwedd 1909
Disgrifiadau
Darn o ruban sidan glas a dorrwyd yn seremoni agor Doc Newydd y Brenin, Abertawe. Mae'r arysgrif yn darllen: 'This Blue Ribbon was cut at the opening of the New King's Dock, Swansea today, November 23rd 1909, by the S.S. Polyphemus.' Arwyddwyd gan John Adams.
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth yn amlwg nad oedd y dociau a oedd yn bodoli yn Abertawe yn medru delio â'r cynnydd mewn masnach oherwydd y gweithgaredd diwydiannol cynyddol yn Ne Cymru ar y pryd. Torrwyd tywarchen gyntaf Doc y Brenin gan Edward VII ym mis Gorffennaf 1904, ac agorwyd y doc yn swyddogol ym 1909.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment