Ivy Tower, Tonna, c.1900
Disgrifiadau
Adeiladwyd The Ivy Tower, a elwid yn wreiddiol 'The Belvedere', gan deulu cyfoethog Mackworth yn ystod y 1700au i ddifyrru gwesteion wrth iddynt gerdded o amgylch y stad.
Teulu Mackworth oedd yn berchen ar stad y Gnoll drwy gydol y 18fed ganrif, a nhw oedd yn gyfrifol am lawer iawn o'r datblygu diwydiannol yn yr ardal, yn ogystal â chreu'r gerddi trawiadol ar eu stad. Yn yr hyn a elwir yn Parc Gnoll erbyn hyn, mae Rhaeadrau Ffurfiol Ffrengig mawreddog a adeiladwyd yn y 1720au ac a ailddarganfuwyd ac a adferwyd yn y 1980au. Mae yno hefyd Raeadrau Mosshouse Woods, groto, a thri llyn mawr, y cyfan wedi'u hadeiladu gan deulu Mackworth. Yr awdurdod lleol sydd yn berchen ar Parc Gnoll erbyn hyn, ac mae ar agor i'r cyhoedd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment