Hen elor eglwys plwyf Llanelidan
Hen elor eglwys plwyf Llanelidan
Disgrifiadau
Dyma hen elor eglwys plwyf Llanelidan. Defnyddiwyd yr elor hon i gario arch John Jones, neu Coch Bach Y Bala fel y'i hadwaenid, at y bedd. Roedd Coch Bach y Bala yn botsiwr ac wedi cael ei ddal sawl tro am ddwyn. Dywed ei fod wedi treulio cyfnod ym mhob carchar yng Ngogledd Cymru. Roedd yn ewog am ddianc o'r carchar ac oherwydd hyn ei lysenw oedd yr "Houdini Cymreig". Ar 30 Medi 1913, tra oedd yng Ngharchar Rhuthun, dihangodd Coch Bach y Bala ond ar ôl pum niwrnod ar ffo fe'i saethpwyd ef. Bu farw o'i anafiadau a chafodd ei gladdu ar 9 Hydref, 1913 ym mynwent Llanelidan.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment