Wyneb yn wyneb â llongwyr o Gymru a fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Mawr
Disgrifiadau
Y sampl o’r cardiau cofnod cynnar yng Nghofrestr Fynegeiedig Ganolog y Llongwyr Masnachol sydd bellach yng ngofal Archifau Southampton. Ar y cardiau CR10 printiedig hyn cofnodir gwybodaeth am ein hynafiaid a fu ar y môr ac am y llongau y buont yn gweithio arnynt, rhai ohonynt yn ystod y Rhyfel Mawr.
Mae’r cardiau CR10 yn nodi enw’r llongwr, dyddiad a lle ei eni, ei swydd ar y llong, a’r tystysgrifau cymhwysedd yr oedd wedi’u hennill. Mae ar rai ohonynt ddisgrifiad corfforol hefyd, er enghraifft, taldra, lliw gwallt a llygaid, a manylion tatŵau.
Mae pob haen o griw llong wedi’i chynrychioli, o gapten i stiward y caban, o beiriannydd i griw y dec. Ceir ffotograffau maint pasbort ar gefn rhai o’r cardiau – dangosir enghreifftiau ohonynt isod.
Mae’r cardiau cofnod yn cynnwys un ar gyfer Arthur Claude Evans, a fu’n gwasanaethu ar y CORINTHIC, un o longau’r White Star Line, wedi iddi gael ei chymryd drosodd o dan y Cynllun Hawlio Llongau Teithio ym 1917. Roedd Arthur Evans yn hanu o Aberteifi a gadawodd ef y llong ym mis Hydref 1918.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment