Nwyddau claddu o'r Oes Efydd a gloddiwyd ym Medd Branwen, Sir Fôn
Disgrifiadau
Esgyrn clust a ddarganfuwyd yn y gladdfa a elwir yn 'Bedd Branwen', gerllaw Afon Alaw, Llanbabo, Sir Fôn.
Erbyn y flwyddyn 1600 C.C. roedd yn arfer cyffredin i amlosgi cyrff. Yn dilyn y seremoni amlosgi, byddai'r lludw a'r esgyrn naill ai yn cael eu casglu a'u claddu mewn twll yn y ddaear neu'n cael eu gadael ar yr wyneb. Weithiau byddai'r lludw yn cael ei roi mewn yrnau crochenwaith. Weithiau byddai eitemau fel arfau neu addurniadau personol yn cael eu llosgi a/neu eu claddu gyda'r corff. Ar achlysuron prin yng ngogledd Cymru, byddai esgyrn clust plant hefyd yn cael eu claddu mewn potyn atodol gerllaw'r wrn amlosgi. Roedd tynnu esgyrn clust o'r benglog yn weithred benderfynol, gan eu bod yn anodd eu canfod. Cafwyd tair enghraifft o'r arfer hynod hwn ym Medd Branwen lle cafwyd hyd i esgyrn clust mewn tri llestr atodol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment