Nwyddau claddu o'r Oes Efydd a gloddiwyd ym Medd Branwen, Sir Fôn
Disgrifiadau
Mae'r nwyddau claddu hyn yn dyddio o Oes yr Efydd ac fe'u darganfuwyd yn y gladdfa a elwir yn 'Bedd Branwen', gerllaw Afon Alaw, Llanbabo, Sir Fôn.
Erbyn y flwyddyn 1600 C.C. roedd yn arfer cyffredin i amlosgi cyrff. Yn dilyn y seremoni amlosgi, byddai'r lludw a'r esgyrn naill ai yn cael eu casglu a'u claddu mewn twll yn y ddaear neu'n cael eu gadael ar yr wyneb. Weithiau byddai'r lludw yn cael ei roi mewn yrnau crochenwaith. Weithiau byddai eitemau fel arfau neu addurniadau personol yn cael eu llosgi a/neu eu claddu gyda'r corff. Mae'r nwyddau claddau a welir yma yn cynnwys arfau fel pennau saethau, llyfnwyr saethau a bwyeill rhyfel. Hefyd, gwelir yma gnepyn asgwrn a oedd yn ffitio ar garn cyllell a charreg hogi gweithfaen. Cafwyd hyd i'r ddau eitem yng nghladdedigaeth B ac roeddynt wedi cael eu llosgi gyda'r corff.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment