'Welsh Not' o Ysgol y Garth, Bangor
'Welsh Not' o Ysgol y Garth, Bangor
Disgrifiadau
Cafwyd hyd i'r enghraifft hon o'r 'Welsh Not' yn Ysgol y Garth, Bangor. Mae'r ysgol honno bellach wedi cael ei dymchwel. Roedd y 'Welsh Not' yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ysgolion yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn ymgais i rwystro plant rhag siarad Cymraeg. Darn o bren neu lechen fechan oedd y 'Welsh Not', a'r llythrennau 'W.N.' wedi eu torri arno. Byddai'r 'Welsh Not' yn cael ei grogi o amgylch gwddf unrhyw blentyn a fyddai'n cael ei ddal yn siarad Cymraeg. Byddai'r athro yn cosbi'r plentyn a fyddai'n ei wisgo ar ddiwedd y dydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment