Maen Llantrisant, diwedd y 6ed ganrif [delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae'r garreg hon yn dyddio o'r chweched ganrif ac fe'i darganfuwyd ger adfeilion Capel Bronwen, ym mhlwyf Llantrisant, Sir Fôn. Fel arfer, byddai meini o'r fath yn cael eu codi fel cerrig bedd neu gofgolofnau. Mae'r maen hwn yn un hynod iawn, nid yn unig oherwydd ei faint anarferol (147cm o hyd) a'i fanylder, ond oherwydd ei fod yn enghraifft brin o garreg sy'n coffáu merch neu wraig. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r arysgrif yn ymwneud â gŵr y wraig, a oedd yn offeiriad neu'n esgob o bosibl. Mae hyn yn profi bod eglwys drefnedig yn bodoli ar Ynys Môn yn ystod y chweched ganrif. Mae'r arysgrif Lladin ar wyneb ac ochr y garreg yn darllen fel a ganlyn: ''... iva, gwraig sanctaidd sy'n gorwedd yma, sef gwraig gariadus Bivatigirnus, gwas Duw, esgob (?offeiriad), a disgybl Paulinus, o dras ' ...docian', ac esiampl i'w holl ddinasyddion a'i berthnasau, o safbwynt ei gymeriad (ac) ym mhatrwm bywyd, (ac hefyd) o safbwynt doethineb (sydd yn well) nac aur neu dlysau'. Er mwyn darllen yr arysgrif ar ochr y maen, gweler y 'golwg ychwanegol' sy'n gysylltiedig â'r ddelwedd hon.
Ffynhonnell: V. E. Nash-Williams, 'The Early Christian Monuments of Wales' (University of Wales Press, Cardiff, 1950).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment