Taflen a chân ynghylch y 'cload allan' yn Chwarel Dinorwig, 1885-6 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Taflen a chân ynghylch yr anghydfod yn Chwareli Dinorwig, Llanberis, a ddechreuodd ym mis Hydref 1885. Yn ystod y misoedd blaenorol, roedd perthynas y chwarelwyr â'r rheolwyr wedi dirywio'n enbyd: roedd cryn anfodlonrwydd ynghylch yr amodau gwaith a cheid honiadau bod y rheolwyr yn gweithredu'n annheg ac yn dangos ffafriaeth at rai gweithwyr. Fe aeth pethau i'r pen ar 23 Hydref, ddeng niwrnod ar ôl i'r chwarelwyr gynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod eu cwynion, pan dderbyniwyd neges gan y rheolwyr yn gorchymyn pob chwarelwr a fu yn y cyfarfod hwnnw i adael ei waith ar unwaith. Fel y dengys y daflen hon, bu'r cyfnod hwn yn un anodd iawn i'r 2,700 o chwarelwyr a'u teuluoedd. Parhaodd yr anghydfod am bum mis tan 1 Mawrth 1886, pan ildiodd y chwarelwyr i ofynion y rheolwyr a dychwelyd i'r gwaith.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment