Cyngor a roddwyd i chwarelwyr Dinorwig gan feddyg y chwarel, 1894
Cyngor a roddwyd i chwarelwyr Dinorwig gan feddyg y chwarel, 1894
Disgrifiadau
Cafodd y cynghorion iechyd hyn eu cyflwyno gerbron chwarelwyr Dinorwig gan R. H. Mills, meddyg y chwarel, ym mis Awst 1894. Yn ei sylwadau, cyfeiriodd Mills yn benodol at yr agweddau canlynol ar fywyd y chwarelwyr: 1) cartrefi'r chwarelwyr; 2) dillad y chwarelwyr; 3) glendid personol; 4) deiet y chwarelwyr. Roedd Mills yn hynod feirniadol o ddeiet y chwarelwyr ac fe wnaeth eu hannog i amrywio eu bwyd ac i fwyta 'rhywbeth heblaw Te a Bara Menyn' - 'Cofiwch nad oes dim maeth mewn te'. Fe'u hanogwyd i amrywio'u bwyd gan fwyta ceirch, bara ceirch, cawl, llaeth, coco a llysiau o'r ardd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment