Llythyr oddi wrth Florence Nightingale at William Rathbone AS, 22 Medi 1882 [delwedd 1 o 6]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn, dyddiedig 22 Medi 1882, mae F.N. yn datgelu manylion ei hymchwil i achosion posibl yr epidemig. Bu mewn cysylltiad â Chomisiwn Glanweithdra'r Fyddin yn Llundain a dywed bod Dr Sutherland wedi argymell llyfr gan Dr Mutchinson. Dywed F.N. ei bod wedi anfon y llyfr hwn at William Rathbone ond mae hi'n ofni bod ei gynnwys braidd yn rhy feddygol. Yn ogystal, mae hi wedi anfon copi o waith Dr Marston ato, ond mae hwn hefyd braidd yn rhy feddygol ei natur. Mae hi'n argymell y dylai Mr Rathbone gael gafael ar adroddiad yr Arolygydd a'i anfon ati. Mae hi'n cyfeirio at y gwahanol ddamcaniaethau ynglŷn ag achos epidemig o'r fath ac mae'n argymell archwiliad manwl o'r holl dai bach, pibellau a'r draeniau stryd. Mae hi'n gofyn i Mr Rathbone yrru'r manylion hyn ati 'yn dawel bach' fel y gall ofyn barn yr awdurdodau yn Llundain.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment