Arolwg a phrisiad o'r tiroedd yn wyth o blwyfi sir Fôn, a gwblhawyd ar gyfer Elusen David Hughes, 13 Medi 1811 [tudalen deitl]
Disgrifiadau
Cwblhawyd yr arolwg a'r prisiad hwn o'r tiroedd ym mhlwyfi Cerrigceinwen, Llangristiolus, Llanddeusant, Llanfflewin, Llanrhuddlad, Aberffro a Cheirchiog, Sir Fôn, gan Thomas Jones, Bryntirion, a William Jones, Nant, ar ran Elusen David Hughes ym 1811. Ar y pryd, roedd y tir ym mherchnogaeth ffeodedigion neu ymddiriedolwyr Elusen David Hughes. Sefydlwyd yr elusen gan David Hughes, sylfaenydd Yr Ysgol Ramadeg Rad ym Miwmares ym 1603. Wedi sefydlu'r ysgol, prynodd David Hughes nifer o ffermydd yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon er mwyn darparu gwaddol parhaol i'w elusen. Prynwyd tir ychwanegol gan y ffeodedigion yn ddiweddarach ac roedd nifer o'r ffermydd hyn yn parhau ym mherchnogaeth yr elusen pan drosglwyddwyd yr ysgol i ofal y sir ym 1895.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment