Llythyr a anfonwyd gan John Jones, meistr ar long y 'Forest King', at W. H. Owen, 20 Mai 1868 [delwedd 1 o 4]
Llythyr a anfonwyd gan John Jones, meistr ar long y 'Forest King', at W. H. Owen, 20 Mai 1868 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Anfonwyd y llythyr hwn at W. H. Owen o Callao gan John Jones, Capten y 'Forest King', 30 Mai 1868. Ymddiheura am beidio ag ysgrifennu'n gynt ond esbonia ei fod wedi wynebu nifer o anawsterau. Bu farw ei wraig o dysentri ar 26 Ebrill ar ôl mis o salwch. Mae ei chorff yn parhau ar fwrdd y llong oherwydd ei dymuniad olaf oedd cael ei chladdu adref. Am ddeng niwrnod yn dilyn marwolaeth ei wraig bu Capten Jones yn gaeth i'w wely yn dioddef o dwymyn; mae'n lwcus iawn i fod yn fyw. Ers ei lythyr diwethaf, mae'r llong wedi gadael y Chinchas gan gyrraedd Callao fore Gwener.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment