Llythyr a anfonwyd gan John Parry, meistr ar long y 'Duke of Rothesay', at W. H. Owen, 22 Medi 1864 [delwedd 1 o 3]
Llythyr a anfonwyd gan John Parry, meistr ar long y 'Duke of Rothesay', at W. H. Owen, 22 Medi 1864 [delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Anfonwyd y llythyr hwn at W. H. Owen gan John Parry, Capten y 'Duke of Rothesay', o Ynysoedd y Chincha, 22 Medi 1864. Esbonia Parry iddo gyrraedd yr Ynysoedd 22 diwrnod yn ôl ond nid oes unrhyw guano wedi cael ei lwytho i'r llong eto. Nid yw'n rhy siŵr pryd bydd y gwaith llwytho yn dechrau. Mae nifer o longau yn yr un sefyllfa, gan gynnwys llongau a gyrhaeddodd yr Ynysoedd rai dyddiau cyn y 'Duke of Rothesay'. Cynigiodd Capten Parry ugain doler y dydd i'r gweithwyr, ond gwrthodwyd ei gynnig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment