Llythyr a anfonwyd gan John Parry, meistr ar long y 'Duke of Rothesay', at W. H. Owen, 13 Tachwedd 1863 [delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Anfonwyd y llythyr hwn at W. H. Owen gan John Parry, Capten y 'Duke of Rothesay', o Benrhyn Griz Nez, Ffrainc, 13 Tachwedd 1863. Hwyliodd y llong o Gluckstadt ddydd Sul diwethaf gan gario cargo o ddefaid. Mae'n flin ganddo hysbysu W. H. Owen fod y moron ar gyfer y defaid (300 o sachau yn pwyso 30,000 pwys) wedi pydru ac mae'r dŵr wedi troi'n ddu ac yn ddrewllyd. Oherwydd hyn, nid oes gan y defaid unrhyw ddŵr yfed: bu farw un o'r defaid tra oeddynt yn Gluckstad ac mae dafad arall yn wael. Tra oeddynt yn Gluckstad fe soniwyd am y problemau gyda'r dŵr, y moron a'r defaid wrth Mr Pinkernell ac fe ddaeth ar fwrdd y llong yn isel iawn ei ysbryd. Archwiliodd y moron a'r dŵr ac fe orchmynodd y criw i daflu'r moron i'r môr. Nid oedd yn gwybod beth i'w ddweud ynglŷn â'r dŵr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment