Copar ledi; o Sir Fôn, 19eg ganrif
Disgrifiadau
'Y copar ledis' oedd yr enw lleol a roddid ar y merched a oedd yn gweithio ym mwynfeydd copr Amlwch, Sir Fôn. Roeddynt yn gyfrifol am lanhau a thorri' mwyn copr. Fel y gwelir yn y ffotograff hwn, roedd y merched yn gwisgo maneg drwchus a modrwyau haearn ar eu llaw chwith er mwyn trin y mwyn. Ceir disgrifiad o 'gopar ledis' yn y penillion poblogaidd canlynol sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg:
Maent oll yn ferched medrus
A hwylus hefo'u gwaith
A'u henwau geir yn barchus
Gan fwynwyr o bob iaith;
Hwy weithient oll yn galed
Am gyflog bychan iawn
O'r braidd cant drigain ceiniog
Am weithio wythnos lawn.
Ffynhonnell: John Rowlands, Copper Mountain (Llangefni, 1966).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment