Skip to main content

Llythyr taith neu lythyr neithior, 17 Hydref 1812

Disgrifiadau

Llythyr taith neu lythyr neithior yn gwahodd y gwesteion i briodas Thomas Jones a Jane Thomas, a gynhelir ar 3 Tachwedd 1812.

Yn ardaloedd gwledig de-orllewin Cymru, roedd yn arfer cyffredin cyn cynnal priodas i wahodd y gwahoddedigion i'r seremoni a'r wledd, neu'r neithior. Cyn dyfodiad y 'post ceiniog' cyflogid 'gwahoddwr' i alw yn nhai ffrindiau a chydnabod er mwyn traddodi'r gwahoddiad ar lafar. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth yr arfer o anfon 'llythyr taith' yn fwyfwy poblogaidd. Er bod y llythyr taith a'r 'stori wadd' yn debyg iawn mewn sawl ystyr, gan eu bod ill dau yn glynu at drefn eithaf sefydlog, nid oedd y llythyr yn cynnwys yr elfennau o hiwmor a oedd mor amlwg yn y cyflwyniad llafar. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y traddodiad llafar ac ysgrifenedig ymron â dod i ben yng Nghymru.

Owner:
Department of Manuscripts and Archives, University of Bangor
Crëwr:
Archives Department, University of Wales, Bangor
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Adran Archifau a Llawysgrifa
Copyright Details:
Adran Archifau a Llawysgrifau, Prifysgol Cymru, Bangor 2010
Publisher Ref:
GTJ15149
Eitem wedi’i llwytho:
19/1/2010
Date originally created:
17/10/1812
Gwelediadau:
1537
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment