Ysgythriad o John Evans gan R. Roffe ar ôl peintiad olew gan A. R. Burt
Disgrifiadau
Cafodd yr ysgythriad hwn gan R. Roffe ei wneud ar ôl peintiad olew gan A. R. Burt. Comisiynwyd y peintiad gan berchnogion glofa Pentre Fron, Mwynglawdd (Minera), sir Ddinbych, i nodi stori anhygoel John Evans. Ym mis Medi 1819 cafodd un ar ddeg o ddynion eu dal o dan ddaear wedi i ddŵr lifo'n sydyn i'r lofa. Achubwyd dau o'r dynion a llwyddodd chwech ohonynt i ddianc, ond boddwyd dau arall a phylodd unrhyw obaith o ddod o hyd i'r un a oedd yn weddill, sef John Evans. Ar ôl tri diwrnod ar ddeg, pwmpiwyd y dŵr o'r lofa ac aeth criw o weithwyr o dan ddaear i chwilio am ei gorff. Cludwyd arch ac amdo a luniwyd yn arbennig ar ei gyfer i ben y pwll. Pan gyrhaeddodd y gweithwyr ddarn o dir uchel gerllaw'r man lle tybid y gorweddai'r corff, cawsant gryn fraw wrth glywed llais yn galw arnynt. John Evans oedd perchennog y llais a daethpwyd o hyd iddo yn ddyn gwan ond yn fyw. Roedd wedi llwyddo i gadw'n fyw dros gyfnod o ddeuddeng niwrnod a deuddeg noson drwy fwyta canhwyllau. Mynnodd John fynd â'r arch adref gydag ef ac mae'n debyg iddo ei defnyddio fel cwpwrdd am nifer o flynyddoedd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment