Papur pum punt 'Wrexham & North Wales Bank', 1844
Disgrifiadau
Sefydlwyd Banc Lloyds (Wrecsam) yn Wrecsam ym 1785 gan Richard Lloyd, gwerthwr gwlanen. Yn sgil llwyddiant ei fusnes gwlân yn Stryd Caer, sefydlodd Lloyd ei fanc ei hun ym 1785 a'r flwyddyn ganlynol prynodd Ystad Bryn Estyn. Yn dilyn ei farwolaeth ym 1814, daeth ei fab, Richard Myddleton Massie Lloyd (neu R. M. Lloyd), yn gyfrifol am y banc. Roedd R. M. Lloyd yn fanciwr llwyddiannus iawn yn nhref Wrecsam ac ef oedd trysorydd ymron y cyfan o'r Cymdeithasau Cyfeillgar lleol. R. M. Lloyd oedd yr unig fanciwr yng ngogledd Cymru i ddod i gytundeb â'r Swyddfa Stampiau ynglŷn â'r dreth stamp ar bapurau arian. Hyd at 1844 cyhoeddodd ei bapurau ei hun ac er y byddai wedi medru parhau i gyhoeddi papurau gwerth hyd at £4,464, yn unol â Deddf Banciau'r flwyddyn honno, penderfynodd ddefnyddio papurau Banc Lloegr o hynny ymlaen. Pan aeth busnes ei brif wrthwynebydd, Banc Kenrick, i'r wal ym mis Rhagfyr 1848, rhoddwyd pwysau aruthrol ar fanc R. M. Lloyd, ac er mawr siom i drigolion Wrecsam a'r cylch caewyd drysau banc Lloyds am y tro olaf ar 10 Ionawr 1849.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment