Pasiant gan Ferched y Wawr Cangen Clydach i ddathlu dau ganmlwyddiant Ann Griffiths 1977
Disgrifiadau
Llun o basiant gan Ferched y Wawr Cangen Clydach ar achlysur dathlu dau ganmlwyddiant geni yr emyneddes Ann Griffiths yn Rhagfyr 1977 yn Eglwys Hebron. Canwyd rhai o emynau mwyaf adnabyddus Ann Griffiths. Llwyddwyd i godi dros £70 tuag at yr Ysbyty a pherfformiwyd y pasiant eto mis Chwefror yn y Felindre. Y Cyfarwyddwr oedd Mr John Evans.
Yn y llun mae – Annie Young (cymeriad Ruth), Brenda Evans (Ann Griffiths), Jean James (Y Parch John Hughes), Marian Ley, Elaine Waghorn, Gwyneth Davies, Doreen Hopkins, Annette Thomas, June Griffiths, Irene Evans, Jennifer Morgan, Agnes Thomas, Gwenfi Williams, Freda Rees, Eluned Davies, Marian Thomas, Gwyneth Harris, Indeg Lewis, Tegwen Roberts, Sali Wyn Harri (telynores), Elonwy Rowlands, Sali Davies, Mrs Henry, Janet Vaughan (Dieithryn)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment