Offer radio yr heddlu yn dyddio o'r 1960au, 1970au a'r 1980au
Disgrifiadau
O'r chwith:
Radio personol Pye PF1 'Pocketfone' (1960au-1970au)
Dyma'r math cyntaf o radio personol a ddosbarthwyd i'r heddlu yn ne Cymru yng nghanol y 1960au, ac fe'i defnyddiwyd tan ganol y 1970au. Roedd dau fath ar gael: trosglwyddyddion neu dderbynyddion. Fel arfer y sarsiant a oedd yn cario'r trosglwyddydd er mwyn anfon negeseuon at ei gwnstabliaid. Gallent hwythau wrando ond ni allent ateb.
Radio personol Burndep (1980au)
Yng nghanol y 1980au disodlwyd y PF1 gan radio Burndep a oedd yn drawsyrrydd-dderbynnydd.
Radio personol Motorola HT600 E
Ym 1988 disodlodd y Motorola y Burndep. Roedd yn arfer cael ei gario mewn cas lledr ar y gwregys.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment