Llusern 'Bull's Eye', 1830
Llusern 'Bull's Eye', 1830
Disgrifiadau
Roedd y llusernau hyn, a gariwyd drwy gydol Oes Victoria, yn cynnwys cronfa fechan, gron a lenwid ag olew. Byddai'r heddwas yn cynnau'r pabwyryn cyn iddo fynd allan ar ddyletswydd nos. Gellid troi tarian fewnol wedi ei chysylltu â'r tyllau mwg ar ben corff y llusern i gysgodi'r golau. Er eu bod yn fyglyd, yn boeth, yn ddrewllyd ac yn taflu ychydig iawn o olau, roedd y llusernau hyn yn parhau i gael eu defnyddio gan Heddlu Sir Forgannwg yn ystod y 1920au.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment