Cot Gannex Heddlu Dinas Caerdydd, 1960au
Cot Gannex Heddlu Dinas Caerdydd, 1960au
Disgrifiadau
Cot fawr Gannex Heddlu Dinas Caerdydd a wisgwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf cyn uno yn 1969.
Cafodd y got Gannex ei chynhyrchu gan un o gwmnïau mwyaf Huddersfield, Kagan Textiles, lle cafodd gorchudd allanol neilon sy'n gwrthsefyll dŵr ei fondio i leinin o wlân. Roedd y got fawr Gannex yn cael ei gwisgo gan Ddug Caeredin a'r Prif Weinidog a aned yn Huddersfield, Harold Wilson, a dosbarthwyd y cotiau i swyddogion yr heddlu ledled y wlad. Sefydlwyd y cwmni yn y 1950au gan Joseph Kagan, ffoadur o Lithwania a chyn garcharor mewn gwersyll-garchar, a ddechreuodd y busnes gydag £8 yn unig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment