Penddelw o'r seiclwr Samuel Linton, Aberdâr
Penddelw o'r seiclwr Samuel Linton, Aberdâr
Disgrifiadau
Arthur Linton oedd yr un mwyaf llwyddiannus o blith y Brodyr Linton; roedd y tri ohonynt yn seiclwyr cystadleuol. Er iddo ennill nifer o rasys ym Mhrydain ac ar draws Ewrop, ei ras olaf, y ras o Bordeaux i Baris ym 1896, a roddodd yr enwogrwydd parhaol iddo.
Roedd gan y ras wobr ariannol fawr, ac Arthur oedd y cyntaf adref i'w chasglu. Serch hynny, fe ymddengys iddo droi'r ffordd anghywir ar hyd y ffordd ac o ganlyniad bu'n rhaid iddo rannu ei enillion gyda'r un a ddaeth yn ail. Dyma oedd diwedd gyrfa Arthur. Bu farw ddeufis yn ddiweddarach wedi iddo ddioddef o'r teiffoid.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment