Pwced a phelen glai o Wersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm, Penybont-ar-Ogwr, 1945
Disgrifiadau
Gwersyll Carcharorion Island Farm, Penybont-ar-Ogwr, oedd lleoliad yr ymgais fwyaf o'i bath gan garcharorion rhyfel Almaenig i ddianc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar 11 Mawrth 1945, llwyddodd 67 o uchel-swyddogion Natsïaidd i gael eu traed yn rhydd am gyfnod wedi iddynt dyllu twnnel o Gwt rhif 9.
Defnyddiwyd y 'bwced' hon i balu'r pridd o'r twnnel a oedd yn arwain o Gwt 9. Hefyd yn y llun mae pelen o bridd o'r twnnel. Ffufiodd yr Almaenwyr yn Island Farm beli o glai o bridd y twnnel dianc er mwyn iddynt fedru cael gwared ag ef yn haws. Adeiladodd y carcharorion rhyfel estyniad ffug i'r brif wal ar ddiwedd troad siâp 'L' yng Nghwt 9 a'i guddio'n gyfrwys. Ffurfiwyd y pridd i mewn i beli clai crwn a'u pasio drwy awyrdwll ffug i'r gwagle y tu ôl gan sicrhau nad oedd y pridd yn dangos uwchlaw lefel y ffenestr. Pan ddaliwyd y carcharorion rhyfel ni wnaethant erioed ddatgelu sut cawsant wared â'r pridd ac fe barhaodd y gyfrinach yn ddirgelwch hyd ganol y 1980au pan giciodd fandaliaid y mur ffug a thywalltodd y peli clai dros y llawr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment