Skip to main content

Yn y seremoni i osod carreg ar fedd Daniel Silvan Evans (1818-1903), y geiriadurwr, 5 Gorffennaf 1956

Disgrifiadau

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir y dorf a ddaeth ynghyd yn y seremoni i osod carreg ar fedd Daniel Silvan Evans yng Nghemaes, Sir Drefaldwyn. Gweinyddwyd y seremoni gan Esgob Bangor ac ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yr oedd y bardd a'r llenor, T. H. Parry-Williams.

Ganed yr ysgolhaig a'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans (1818-1903) yn Llannarth, Sir Aberteifi. Bu'n gweithio fel athro am gyfnod cyn cael ei ordeinio'n offeiriad. Bu'n gwasanaethu mewn nifer o blwyfi yn y gogledd, cyn diweddu ei oes yn Llanwrin. Bu'n darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth rhwng 1875 a 1883. Cofir ef yn bennaf am ei waith fel geiriadurwr. Treuliodd gyfnod maith yn casglu deunydd ar gyfer ei Eiriadur Cymraeg gan gyhoeddi ei waith fesul rhan. Fodd bynnag, ni chwblhawyd y gwaith cyn ei farwolaeth ym 1903.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Charles, Geoff
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ12095
Eitem wedi’i llwytho:
29/7/2009
Date originally created:
5/7/1956
Gwelediadau:
1115
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment