Skip to main content

Morfudd Llwyn-Owen (1891-1918), cyfansoddwraig

Disgrifiadau

Ganed y gyfansoddwraig Morfudd Owen (1881-1918) yn Nhrefforest, ger Pontypridd. Roedd yn bianydd dawnus ac enillodd ysgoloriaeth 'Caradog' i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd ym 1912. Cafodd ei derbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn honno, o dan ei enw barddol 'Morfudd Llwyn-Owen'. Aeth ymlaen i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, lle disgleiriodd fel cyfansoddwraig a lleisydd, gan ennill nifer o wobrau. Ym 1914 cyhoeddodd gyfrol o alawon gwerin a gasglwyd o Sir y Fflint a Dyffryn Clwyd ar y cyd gyda'i ffrind yr Arglwyddes Ruth Herbert Lewis. Cyfansoddodd nifer fawr o weithiau cerddorfaol a chaneuon, ac un o'i gweithiau mwyaf adnabyddus yw'r gân 'Gweddi y Pechadur'. Ym 1917 priododd â'r seicdreiddiwr Ernest Jones (1879-1958), ond bu farw o lid y pendics y flwyddyn ganlynol pan oedd yn 27 oed.

Ffynhonnell:
Oxford Dictionary of National Biography

Owner:
Pontypridd Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Pontypridd
Copyright Details:
Amgueddfa Pontypridd 2003
Publisher Ref:
GTJ69144
Eitem wedi’i llwytho:
19/1/2010
Date originally created:
1881-1918
Gwelediadau:
1616
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment