Glofa'r Albion, Cilfynydd, ar ôl y ffrwydriad ym 1894
Glofa'r Albion, Cilfynydd, ar ôl y ffrwydriad ym 1894
Disgrifiadau
Dioddefodd Glofa'r Albion un o drychinebau glofaol gwaethaf Prydain. Ar 23 Mehefin 1894 lladdwyd 281 o ddynion a bechgyn yn dilyn ffrwydriad enfawr yn y pwll. Bu ffrwydriad arall yn y lofa ar 10 Tachwedd 1906 pan lladdwyd chwech o ddynion.
Agorwyd y lofa ym 1887 gan Gwmni Glo Ager yr Albion. Bu'r lofa yn eiddo i Gwmni Powell Duffryn yn ddiweddarach cyn cael ei throsglwyddo i ddwylo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1947. Caewyd y lofa ym 1966.
Darllen pellach:
http://www.welshcoalmines.co.uk/Photo.htm
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment