Golygfa o Grochendy Nantgarw, ger Pontypridd
Disgrifiadau
Sefydlwyd Crochendy Nantgarw ym 1813 gan Samuel Billingsley (a gafodd ei adnabod hefyd yn William Beeley) a'i fab yng nghyfraith Samuel Walker. Lleolwyd y crochendy wrth ochr Camlas Morgannwg, ac roedd y gamlas yn cael ei defnyddio i gludo clai o Gaerdydd ac i anfon y cynnyrch gorffenedig i Lundain i'w allforio. Arbenigodd y crochendy mewn cynhyrchu porslen meddal, ond oherwydd problemau ariannol cafodd ei gau ym 1819. Ail-ddechreuwyd cynhyrchu crochenwaith ar y safle ym 1833 o dan reolaeth William Henry Pardoe. Canolbwyntiodd y crochendy ar gynhyrchu pibau clai a llestri priddwaith gwydredd brown a elwid yn grochenwaith Rockingham. Caeodd y crochendy am y tro olaf ym 1921.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment