Mantell aur yr Wyddgrug (copi) tua 1900-1600 CC
Disgrifiadau
Mae mantell yr Wyddgrug yn fantell aur seremonïol unigryw sy'n dyddio o'r Oes Efydd. Mae'r fantell sydd i'w gweld yn Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel yr Wyddgrug yn gopi o'r fantell wreiddiol a gedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain.
Cafodd y fantell ei darganfod ym 1833 gan weithwyr a oedd yn cloddio am gerrig ar ben twmpath claddu hynafol yn yr Wyddgrug. Roedd y twmpath yn gorwedd mewn cae o'r enw Bryn yr Ellyllon. Daeth y gweithwyr o hyd i fedd a amgylchynwyd gan gerrig a oedd yn cynnwys gweddillion sgerbwd a'r fantell aur. Nid oedd y fantell hon yn addas ar gyfer ei defnyddio bob dydd ac mae'n debyg iddi gael ei gwisgo ar achlysuron seremonïol arbennig yn unig. Mae'r fantell hon yn cael ei hystyried yn un o'r enghreifftiau gorau o waith llen-aur cynhanesyddol ac mae ei ffurf a'i chynllun yn unigryw. Cafodd y fantell ei churo o un llafn o aur a'i haddurno gyda rhesi a chnapiau. Roedd y fantell wedi ei chysylltu â leinin, leinin lledr o bosibl, a fyddai'n gorchuddio mynwes ac ysgwydd y sawl a'i gwisgai.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment