Dyddiadur gwaith Cwnstabl Thomas Jones, 27 Mehefin - 1 Gorffennaf, 1843 [delwedd 1 o 10]
Disgrifiadau
Sefydlwyd Heddlu Sir Drefaldwyn ym 1841 ac am y tro cyntaf, roedd gan y sir ddau Gwnstabl parhaol gyda dyletswyddau a gwisgoedd arbennig. Roedd Thomas Jones yn un o'r heddweision cyntaf i wasanaethu yn y sir ac yn ystod ei yrfa fe weithiodd mewn nifer o drefi gan gynnwys Llanidloes a Machynlleth.
Fel pob heddwas, roedd yn rhaid i Thomas Jones gadw dyddiadur er mwyn cofnodi digwyddiadau'r diwrnod. Ar bob tudalen, mae'n nodi'r awr y mae'n dechrau ac yn gorffen gweithio, enwau'r llefydd y mae'n ymweld â nhw, y nifer o filltiroedd y mae'n cerdded, ac unrhyw sylwadau pellach ar ddigwyddiadau'r diwrnod.
Ceir yma gofnodion o'r cyfnod pan oedd Thomas Jones yn gweithio yn y Drenewydd a Four Crosses. Roedd yr Sarsiant yn ymweld ag ef yn achlysurol ac yn gwirio ei ddyddiadur, ond ar y cyfan, roedd yn gweithio ar ei ben ei hun neu'n derbyn gorchmynion gan yr Ustusiaid Heddwch lleol.
Er bod yn rhaid i bob heddwas gadw dyddiadur, nifer gymharol fechan o ddyddiaduron sydd wedi goroesi. Felly, mae'r dyddiaduron hyn yn arbennig o bwysig ac yn rhoi cipolwg ar waith heddwas cyffredin yn ogystal â bywydau'r bobl yr oedd yn eu gwasanaethu.
Ar y dudalen hon, mae Thomas Jones yn dweud ei fod wedi cyflwyno gwŷs yn erbyn Richard Pryce o 'New House' am wrthod cynnal ei blentyn gordderch. Mae hefyd wedi cyflwyno gwŷs yn erbyn ugain o bobl o Benygloddfa am wrthod talu treth y tlodion. Ar waelod y dudalen, mae'n rhestri nifer o eitemau a gipiwyd o dŷ Hannah Evans ac mae'n dweud ei fod am edrych am y lladron.
[Wedi ei selio yn rhannol ar ddisgrifiad a ddarparwyd gan 'Brosiect Hanes Digidol Powys']
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment