Skip to main content

Maint ac Amcangyfrif o'r gost o godi tŷ newydd yn Ysguborfawr, Aberffro, 27 Medi 1827

Disgrifiadau

Dengys y ddogfen hon fesuriadau ac amcangyfrif y gost o adeiladu tŷ newydd yn Ysguborfawr ym mhlwyf Aberffro, Sir Fôn, 27 Medi 1827. Ar y pryd, roedd y tir ym mherchnogaeth ffeodedigion neu ymddiriedolwyr Elusen David Hughes. Sefydlwyd yr elusen gan David Hughes, sylfaenydd Yr Ysgol Ramadeg Rad ym Miwmares ym 1603. Wedi sefydlu'r ysgol, prynodd David Hughes nifer o ffermydd yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon er mwyn darparu gwaddol parhaol i'w elusen. Prynwyd tir ychwanegol gan y ffeodedigion yn ddiweddarach ac roedd nifer o'r ffermydd hyn yn parhau ym mherchnogaeth yr elusen pan drosglwyddwyd yr ysgol i ofal y sir ym 1895.

Owner:
Anglesey County Record Office
Crëwr:
Anglesey County Record Office
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Ynys Môn
Copyright Details:
Archifdy Ynys M�n 2001
Publisher Ref:
GTJ15245
Eitem wedi’i llwytho:
4/1/2010
Date originally created:
27/9/1827
Gwelediadau:
1090
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment