Skip to main content

Cyfeiriad at yr arfer o 'glapio am wyau' yn Llyfr Log Ysgol Llanfair-yng-Nghornwy, Y Pasg 1915

Disgrifiadau

Mae'r dudalen hon o Gofnodlyfr Ysgol Llanfairynghornwy 1915 yn cynnwys cyfeiriad at yr arferiad yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru o 'glepian wyau' - fel y'i gelwid yn Sir Fôn. Yn ystod yr wythnos cyn y Pasg byddai plant lleol yn ymweld â chartrefi yn gofyn am wyau. Yn aml byddent yn cario clepwyr wyau ac yn llafarganu'r geiriau canlynol 'Clap, clap, gofyn ŵy, i hogia' bach ar y plwy'. Gallai'r plant gasglu cynifer â 150 i 200 o wyau yr un a byddai'r rhain yn cael eu gosod mewn lle amlwg ar y dreser yn eu cartrefi gydag wyau'r plentyn hynaf yn cael eu gosod ar y silff uchaf a rhai yr ail ar yr ail silff ac yn y blaen. Er gwaethaf gwrthwynebiad cryf athrawon ysgol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn pryderu ynglŷn â'r effaith niweidiol ar bresenoldeb y plant yn yr ysgol, parhaodd yr arferiad o 'glepian wyau' yn hynod o boblogaidd ymysg plant Sir Fôn. Yn wir, erbyn blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif ymddengys bod athrawon bellach yn derbyn y ffaith mai nifer fechan o blant fyddai'n bresennol yn ystod y dyddiau cyn y Pasg ac fel y dengys y cofnod hwn, cafodd yr arferiad ei ddathlu'n ffurfiol gyda gwyliau ysgol swyddogol.

Owner:
Anglesey County Record Office
Crëwr:
Anglesey County Record Office
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
GTJ15214
Eitem wedi’i llwytho:
4/1/2010
Date originally created:
1915
Gwelediadau:
1238
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment