Skip to main content

Criw ffilmio a fu'n cofnodi'r gwasanaeth olaf a gynhaliwyd yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Capel Celyn, 28 Medi 1963

Disgrifiadau

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir Gwyn Williams, BBC, yn pwyso dros y wal, a'i griw ffilmio. Roeddynt wedi bod yn ffilmio munudau olaf capel y Methodistiaid Calfinaidd, Capel Celyn, ar 28 Medi 1963.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Charles, Geoff
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
The National Library of Wales 2001
Publisher Ref:
GTJ11795
Eitem wedi’i llwytho:
24/7/2009
Date originally created:
28/9/1963
Gwelediadau:
2124
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment