Skip to main content

Ymweld â'r set o Dinotopia ym Mhorth Ysgaden

Disgrifiadau

Ym mis Hydref 2000 daeth criw o wneuthurwyr ffilm i draeth Porth Ysgaden i ffilmio ar gyfer cyfres deledu o'r enw Dinotopia.

Nid oedd yn gyffredin i weld criw o wneuthurwyr ffilm ar y llun, a hyd yn oed yn fwy anghyffredin iddynt ganiatáu i'r cyhoedd crwydro o gwmpas set! Yr 'hatchery' oedd enw'r adeilad ac roedd wyau dinosoriaid enfawr ar y traeth.

Rwy'n cofio mynd gyda'r rhan fwyaf o'm teulu i weld y set, gan gynnwys fy mam, fy modryb, fy nain, taid, fy mrawd a dau o'n ffrindiau, Rhys a Cheri, yn y llun olaf.

Gall mynd llawr i draeth Porth Ysgaden fod yn anodd. Os yw'r llanw i mewn, bydd rhaid i chi gerdded trwy'r môr i gyrraedd y traeth neu ddefnyddio'r llwybr i lawr y clogwyn. Roedd nain bob yn poeni pan roedd taid yn defnyddio'r llwybr rhag ofn iddo syrthio.

Yn ffodus i ni roedd y criw ffilm wedi creu llwybr ei hunain i lawr i'r traeth i'w gwneud hi'n haws i gael mynediad i'r traeth felly gallai fy nain a thaid fwynhau'r traeth y diwrnod hwnnw. Bechod nad oedd y criw ffilm wedi gadael y llwybr yno pan wnaethant orffen ffilmio!

Gellir cael gwybodaeth am y gyfres deledu yma:http://www.imdb.com/title/tt0233044/

Owner:
Jessica Roberts
Crëwr:
Rebecca Roberts
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
9/11/2017
Gwelediadau:
3390
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment