Ymladd blynyddol bore Nadolig gyda 'Silly String'
Disgrifiadau
Pan rwyf yn meddwl am y Nadolig, rwyf bob tro yn cofio'r adeg pan fyddaf yn 'ymladd' hefo fy modryb yn erbyn fy mrawd gyda "Silly String".
I'r rheini sydd heb syniad beth yw "Silly String", mae'n debyg i blastig hylif sy'n dod mewn aerosol ac yn edrych fel llinyn.
Bob bore Nadolig fe fyddwn i a'm modryb yn ymuno a "ymladd" yn erbyn fy mrawd, gan ddefnyddio dim ond y "Silly String" fel arf. Roedd rhaid i ni feddwl a chreu ein harfwisg ei'n hunain, a'r person neu'r tîm gyda'r swm lleiaf o 'Silly String" arnynt ar ddiwedd y frwydr enillodd.
Byddai fy mrawd yn rhoi amser ac ymdrech i mewn i'w arfwisg, yn aml wedi gwneud allan o focsys ac wedi addurno gydag enw hwn: "The Terminator T-1000". Fe wnaethwn i a'm modryb wneud lai o ymdrech, rwy'n cofio un flwyddyn yn gwisgo bagiau bin du ac yn y llun hwn rydym wedi lapio'n gilydd mewn cling film.
Collwyd fi a fy modryb y flwyddyn hon, a'r rhan fwyaf o flynyddoedd os cofiaf yn gywir!
Ah hen ddyddiau da'r 1990au!
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment