Skip to main content

Dr William Price yn cynnal seremoni

Disgrifiadau

Dr William Price yn cynnal seremoni. Yn feddyg unigryw dros ben, cafodd Dr William Price (1800-1893) ei eni'n Rhydri ger Caerffili. Roedd yn gymeriad lliwgar, ac yn enwog am wisgo penwisg o groen cadno. Siartydd ydoedd, a oedd yn dilyn arferion derwyddol ac yn credu mewn amlosgi. Ym 1884, aeth ati i amlosgi corff ei fab yn Llantrisant er mawr ffieidd-dod i'r gymuned leol, a threfnodd ei wasanaeth amlosgi ei hun, a ddenodd dyrfa fawr o 20,000.

Dyma lun ohono'n dal rhaff mewn un llaw, a ffagl wedi'i goleuo yn y llall.

Rhif Derbyn: F70.202

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
27/9/2017
Gwelediadau:
1395
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment