Portread o John Roberts a'i wraig Jane Richard
Disgrifiadau
Portread o John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77 a'i wraig Jane Richards. Roedd John Roberts yn weinidog ac yn gerddor Cymraeg ac yn cael ei adnabod fel Ieuan Gwyllt, enw a ddefnyddiodd wrth ysgrifennu cerddi pan oedd yn fachgen ifanc. Roedd yn gyfansoddwr emynau brwd a sefydlodd sawl gŵyl gerddorol gan gynnwys Gwent a Morgannwg. Roedd yn arweinydd cymanfaoedd ac yn olygydd sawl cyfnodolyn Cymraeg hefyd. Cafodd ei eni yn ardal Aberystwyth ym 1822 a bu farw yng Nghaernarfon ym 1877.
Ei wraig Jane Richards, o Aberystwyth yw'r fenyw yn y llun. Priododd y ddau ym 1859. Defnyddiwyd gilt i amlygu ei thlysau ac ychwanegwyd lliw at y lliain bwrdd lle mae'n pwyso ei braich.
Rhif Derbyn: 52.459.1
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment