Ymgyrch IE dros Gymru yn Refferendwm 1997
Disgrifiadau
Yr artist Mary Lloyd Jones baentiodd y faner hon ar gyfer ymgyrch IE dros Gymru yn Refferendwm 1997, ar y 18fed o Fedi.
Roedd yn rhaid i bobl Cymru benderfynu a oeddent am gael cynulliad â phwerau wedi'u datganoli ai peidio. Bwrodd 50.1% o'r etholaeth eu pleidlais. Trwch blewyn oedd rhwng y ddwy ochr. Roedd 552,698 yn erbyn a 559,419 o blaid, sef mwyafrif o 6,721. Ar sail hyn, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd tair plaid wleidyddol yn cefnogi ymgyrch IE: Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Arweinydd yr ymgyrch, Ron Davies, oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Canolbwyntiodd yr ymgyrch ar lawr gwlad. Roedd pob math o grwpiau gan gynnwys 'Pensiynwyr yn dweud IE', 'Actorion yn dweud IE' ac 'Ystradgynlais yn dweud IE'. Creodd Mary Lloyd Jones y faner hon ar ran y grŵp 'Artistiaid yn dweud IE'.
Feddyliais i erioed, wrth baentio'r faner ar lawr y stiwdio yn Aber-banc, y byddai'n wrthrych hanesyddol ryw ddydd!
Mary Lloyd Jones, 30 Hydref 2008
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment