Skip to main content

Cadair Eisteddfod Shanghai

Disgrifiadau

Cadair arddull Tseiniaidd, a roddwyd gan Gymdeithas Gymreig Shanghai ar gyfer eisteddfod Wrecsam 1933. Dyfarnwyd y gadair i Trefin. Rhif cyfeirnod: DF111688
 

Fe gymerodd dros flwyddyn i'r crefftwyr yn y llun i gerfio'r gadair eisteddfodol hon. Fe'i gwnaed yn amddifaty Catholig T’ou-se-we, ar gyrion Shanghai. Roedd gan yr amddifaty hwn, a sefydlwyd gan genhadon Catholig ym 1852, nifer o weithdai lle dysgid crefftau megis cerfio pren, paentio, argraffu, gwaith tun a gwaith gwydr lliw a ffotograffiaeth. Cyflwynwyd y gadair yn wobr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym 1933 gan Gymro llwyddiannus oedd yn byw yn Shanghai. Roedd Dr John Robert Jones(g. Llanuwchllyn 1887,m. Hong Kong 1976) yn fargyfreithiwr ac yn eisteddfodwr brwd a oedd hefyd yn ymddiddori'n fawr yn niwylliant a chelfyddyd Tseina. Aeth i Shanghai ym 1924, a dyfod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Rhyngwladol ym 1928. Roedd yn un o hoelion wyth cangen Shanghai o'r Royal Asiatic Society a Chymdeithas Dewi Sant. Ei syniad ef oedd comisiynu crefftwyr T’ou-se-we i wneud y gadair. Enillydd y gadair ym 1933 oedd Trefin (Edgar Phillips) am ei awdl 'Harlech'. Enillwyd cadair debyg iawn, hefyd wedi'i gwneud yn T'ou-se-we, gan y bardd Gwenallt Eisteddfod Abertawe, 1926.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Shanghai Welsh Society
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
10/8/2017
Gwelediadau:
1172
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment