Eben Fardd
Disgrifiadau
Eben Fardd (Ebenezer Thomas) a fu farw ar 17 Chwefror, yn drigain oed. Câi ei ystyried yn un o feirdd amlyca'r genedl ei ddydd, ac mae'n deg dweud bod ganddo fwy o ymwybyddiaeth barddol gwirioneddol nag unrhyw fardd eisteddfodol arall yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n feirniad eisteddfodol cyson, gan gynnwys y digwyddiad cofiadwy hwnnw'n Aberffraw ym 1849 pan oedd o blaid dyfarnu'r Gadair i Emrys (William Ambrose) am ei awdl 'Y Greadigaeth', ond nid felly y bu gan fod y ddau feirniad arall yn ffafrio Nicander. Yn ogystal â'i gerddi eisteddfodol cofiadwy, ysgrifennodd doreth o benillion achlysurol, ac ymddangosodd casgliad o emynau ganddo dan y teitl 'Hymnau' (Dinbych, 1862). Paratodd atodiad o emynau ar gyfer argraffiad 1856 o'r Salmydd Cymreig, a olygwyd gan Roger Edwards. Cyfrannodd yn helaeth at gyfnodolion y cyfnod. Fel bardd, fe welir yn ei waith uchafbwynt yr hen ganu clasurol disgrifiadol yn ‘ Dinystr Jerusalem ,’ a hefyd ddylanwad y mudiad rhamantaidd newydd yn y canu telynegol yn ei awdl ‘Y Flwyddyn’ ac yn arddull ‘Miltonaidd’ yn ei bryddest ‘Yr Atgyfodiad’. Yn wir, Eben Fardd oedd canolbwynt llawer o fwrlwm llenyddol hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd casgliad ganddo yn 'Gweithiau Barddonol Eben Fardd' (1873 mae'n debyg), wedi'i olygu gan Howell Roberts a William Jones. Daeth ei ddiddordeb fel hynafiaethydd i'r amlwg yn y gyfrol 'Cyff Beuno' (1863) sy'n ymdrin ä hanes a thraddodiad plwyf Clynnog. Ei lwyddiant cyntaf fel bardd oedd yn Eisteddfod Powys yn y Trallwng ym 1824, pan enillodd y wobr gyntaf am ei awdl 'Dinystr Jerusalem'. Ym 1825, aeth i gadw ysgol yn Llanarmon cyn symud i Glynnog ym 1827. Priododd Mary Williams, Caerpwsan, Clynnog, a chawsant bedwar o blant - tair merch a mab. Arferai ei wraig bobi bara a chadw siop, ac roedd yntau'n rhwymo llyfrau er mwyn ychwanegu at ei gyflog fel ysgolfeistr, a bu'n cadw'r post yn ddiweddarach. Ym 1839 ymaelododd eilwaith â'r Methodistiaid Calfinaidd. Enillodd ei ail wobr eisteddfodol bwysig yn Lerpwl ym 1840 am awdl ar ‘Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob’. Yn y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd ei ddwy awdl, a rhai darnau byrrach mewn cyfrol o'r enw 'Caniadau' (Caernarfon, James Rees). Roedd ei ysgol wedi'i lleoli yn eglwys y plwyf, ond symudodd i adeilad bach drws nesaf i'w gartref ei hun ym 1843, lle bu tan 1845, cyn symud i gapel Ebenezer wedyn. Ym 1849, gofynnwyd iddo gymryd yr awenau mewn ysgol genedlaethol newydd yng Nghlynnog, ond gwrthododd y cynnig gan y byddai disgwyl iddo fod yn gymunwr eglwys y plwyf. Dangosodd y Methodistiaid Calfinaidd ddiddordeb yn ysgol Eben, a chafodd grant o £15 y flwyddyn gan henaduriaeth Arfon (a gynyddodd i £30 yn ddiweddarach) ar yr amod ei fod yn addysgu plant Methodistiaid Calfinaidd yn rhad ac am ddim ac yn hyfforddi ymgeiswyr ar gyfer y weinidogaeth, ac felly y bu hi weddill ei oes. Anfonodd bryddest 'Yr Atgyfodiad' i eisteddfod Rhuddlan 1850, ond aflwyddiannus oedd ei hanes, ond daeth i'r brig yn eisteddfod Llangollen 1858 am awdl ‘Brwydr Maes Bosworth.’ Ymgeisiodd ar destun 'Y Flwyddyn’ yng Nghaernarfon ym 1862 ond Hwfa Môn aeth â hi. Bu farw ar 17 Chwefror 1863, a chladdwyd ef yng Nghlynnog. Roedd ei wraig a'i fab a dwy o'i ferched wedi marw o'i flaen.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment