Plant yn chwarae ar y stryd
Plant yn chwarae ar y stryd
Disgrifiadau
Plant yn chwarae ar y stryd gydag eglwys yn y cefndir. Dywedir mai'r fynwent hon ym mhlwyf Llangynwyd ger Maesteg yw'r fynwent breifat fwyaf yn Ewrop. Mae cofnodion claddedigaethau'r eglwys yn dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif. Mae'r eglwys wedi'i chysegru i Gynwyd Sant, mab Cynfelyn a phennaeth o'r chweched ganrif. Y cyfan sy'n weddill o'r strwythur gwreiddiol yw soced garreg allai fod wedi dal croes bren, a welir yn y wal uwchben y fynedfa. Cafodd yr eglwys ei hailadeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg, a'i hadfer sawl tro wedyn. Mae'r tŵr sgwâr yn perthyn i'r bymthegfed ganrif, ac fe'i adferwyd yn llwyr ym 1893.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment