Fferm Dyffryn Llangynwyd
Fferm Dyffryn Llangynwyd
Disgrifiadau
Mae stori ysbryd ynghlwm â'r fferm hon yng Nghwm Llynfi. Yn ôl pob tebyg, ymddangosodd ysbryd gerbron bachgen ar y fferm a'i ennyn i wneud pob math o ddrygioni; rhoi teisi ar dân, troi gwartheg o'r siediau ac ati. Pan ddangosai'r bachgen yr arwydd lleiaf o anufudd-dod, byddai'r ysbryd yn ei gosbi - un tro, taflodd yr ysbryd y bachgen druan dros y tŷ, ond yn ffodus, cafodd ei ddal gan ganghennau coeden. Ni chredir i'r bachgen gael ei niweidio'n ddifrifol gan driniaeth arw'r ysbryd. Byddai'r ysbryd yn pedu'r ffenestri â cherrig, gan beryglu'r trigolion. Defnyddiwyd dewiniaeth ddu i'w alltudio o'r fferm yn y pen draw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment