Peithynen
Disgrifiadau
Roedd beirdd a lynnai o hyd at ledu eu dysg ar lafar yn hytrach nag ar bapur yn dal i ddefnyddio system ysgrifennu â llythrennau rwnig, sef Coelbren y Beirdd. Daw enw'r wyddor o'r geiriau 'coel' (cred) a 'phren', gan ddynodi wyddor a dorwyd ar bren y disgwylid i bawb ei chofio neu ei choelio. Roedd yn cael ei naddu ar ddarnau o bren sgwâr neu driongl - derw fel arfer. Byddai'r darnau hyn yn cael eu gosod mewn trefn arbennig mewn ffram, fel bod modd eu troi i ddarllen y pedair ochr. Yr enw ar y 'llyfr' hwn oedd 'peithynen'. Llinellau syth i gyd oedd llythrennau'r wyddor neu Goelbren y Beirdd fel ei bod yn haws eu naddu i'r bren. Roedd hyn cyn i'r defnydd o femrwn a phapur ddod yn gyffredin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment