Fferm Tynton
Disgrifiadau
Dengys cofnodion mai yn Fferm Tynton y ganed Dr Richard Price (1723-1791). Mae'n dŷ rhestredig Gradd II a adeiladwyd yn wreiddiol ddiwedd y 1600au. Mae'r pentref cyfan wedi'i warchod fel rhan o ardal gadwraeth heddiw. Yn athronydd ac athrylith ariannol, aeth Richard Pryce ati i gofnodi ei egwyddorion llywodraethu a oedd yn cynnwys y rhyddid i addoli yn ôl y dymuniad, rhyddid i lefaru a hawliau pob dyn i feddwl a siarad yn ôl eu cydwybod. Pan ddarllennodd trigolion trefedigaethau newydd Gogledd America waith Dr Price, cawsant eu hysbrydoli i ddatgan Annibyniaeth oddi wrth Loegr a sefydlu eu gwlad eu hunain. Cafodd ei syniadau eu cynnwys yn y Datganiad Annibyniaeth a arweiniodd at Ryfel Annibyniaeth America. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd ysgrifau Dr Price fel sail i'w cyfansoddiad newydd, sy'n para hyd heddiw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment