Parc Margam o'r dwyrain
Parc Margam o'r dwyrain
Disgrifiadau
Yr ystâd wledig 850 erw hon, gyda'i thirwedd amrywiol ag olion byw ers 4,000 o flynyddoedd, yw un o brif aneddiadau hynafol Morgannwg. Bu'n safle o gryn bwys crefyddol erioed. Cafodd yr Abaty Normanaidd ei sefydlu ganol y ddeuddeged ganrif, a bu'n ganolfan grefyddol ym Morgannwg hyd nes y cafodd ei diddymu gan Harri VIII. Ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd y parc ei wella a'i ehangu ymhellach pan adeiladwyd Castell Margam. Defnyddiwyd y plasty Tuduraidd ei arddull tan ddiwedd yr ail ryfel byd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment