Skip to main content

Y Fari Lwyd

Disgrifiadau

Y Fari Lwyd yw'r enw mwyaf cyffredin yng Nghymru ar y pen neu ffigwr ceffyl gaiff ei gario o ddrws i ddrws gan bartïon canu gwasael dros ŵyl y Nadolig. Roedd y ddefod yn ddechrau trwy ganu cyfres o benillion traddodiadol y tu allan i'r drws, yn gofyn am ganiatâd i ganu a chamu dros y trothwy i'r tŷ, cyn dechrau ar her fydryddu. Yna deuai'r 'pwnco', sef y ddadl a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a byrfyfyr rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd yr ochr arall i'r drws. Byddai hyn yn cynnwys cryn dipyn o dynnu coes gyda'r naill ochr yn difrïo canu, meddwdod a chybydd-dod y llall ac ati. Byddai ennill y ddadl yn sicrhau mynediad i'r tŷ a chyfle i griw'r Fari Lwyd fwynhau cacenau a chwrw, a rhodd ariannol hefyd o bosib. Weithiau, ar diwedd y 'pwnco', byddai'r criw yn canu penillion ychwanegol yn cyflwyno'i holl aelodau cyn gorffen gyda chân ffarwel ar ôl diddanu pawb ar yr aelwyd.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Frederic Evans
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
31/5/2017
Gwelediadau:
1171
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment