Cyfweliad, Betty Probert. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Cyfweliad gyda Betty Probert am ei gwaith yn OP Chocolate Factory - Merthyr, Hoover - Pentrebach, Merthyr
Gadawodd Betty yr ysgol yn 16oed (1946) a dechrau yn O P Chocolates (tan 1954) gyda’i hefeilles. Roedd yn yr adran bacio, hefyd yn y llawr isaf yn gwneud siocledi neu losin wedi’u berwi. Gwaith trwm. Gwnaent fisgedi crimp hefyd. Gallech fwyta faint fynnech chi. Caent fisgedi briwedig mewn bag. Cefnogodd yr Undeb hi pan wrthododd wneud gwaith rhy drwm. Recordiau, siarad a chanu. Anfon negeseuon gyda’r siocledi: ‘If married, pass us by, if single, please reply.’ Cwrddodd ei chwaer â dyn o’r Iseldiroedd fel hyn! Dwstio’r siocledi â dwster plu. Symudodd y ffatri i Ddowlais. Symudodd llawer o’r merched i Hoover’s. Disgrifia’r tasgau gwahanol a wnâi yno. Hyfforddi yn Llundain. Menywod ar y llinell gynhyrchu. Cafodd ddamwain ac iawndal £60 – bu gerbron tribiwnlys. Yr undeb – ei ffrind yn 'shop steward'. Bonysau misol a Nadolig. Cafodd beiriant golchi, sychwr dillad a glanhawr (yn rhatach) tra bu yno. Gall gael hyn heddiw. Streic tâl cyfartal – menywod ar y peiriannau trwm. Nid oedd yn ymwybodol ar y pryd o streic Dagenham. Dawnsio yn y cantîn a chyfleusterau tennis bwrdd. Diwrnod Mabolgampau – ffatrïoedd yn cystadlu. Cyngherddau – noda’r cantorion. Ysmygu ar lawr y ffatri. Gwyliau. Dalient i gwrdd - clwb criced. Gadawodd Hoover’s yn 1989. Wats aur – nodi 25 ml. + £30; £100 am 35 ml. Pensiwn misol a thâl diswyddiad. ‘Cartref oddi cartref’.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment